#

Y Pwyllgor Deisebau ,Y Pwyllgor Deisebau | 23 Hydref 2018
 Petitions Committee | 23 October 2018
 
 
  

 

 

 


Cyfranogiad pobl ifanc wrth gomisiynu gwasanaethau

Teitl y ddeiseb: P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gydnabod y ffaith nad yw'r lefel bresennol o gyfranogiad pobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau yn caniatáu i grwpiau ymylol gael eu cynnwys yn y broses honno. Rydym yn gofyn am adolygiad o'r polisïau a'r canllawiau sydd ar waith, ynghyd ag argymhelliad bod canllawiau newydd gorfodol ar waith ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir ar gyfer pobl ifanc.

Mae angen i holl bobl ifanc Cymru gael y cyfle i leisio barn a rhannu eu profiadau mewn modd ystyrlon, a hynny at ddibenion llunio'r gwasanaethau sydd ar gael i'w cefnogi. Rydym yn gofyn i chi gefnogi'r broses o hyrwyddo newidiadau a fydd yn arwain at gyflawni'r nod hwn. Fel pobl ifanc, rhaid inni gael y cyfle i rannu ein syniadau a'n safbwyntiau ynghylch y prosiectau y mae arnom eu hangen yn ein hardaloedd ni. 

Ar hyn o bryd, dim ond cynghorau/fforymau ieuenctid sy'n destun ymgynghoriadau, ac nid yw'r drefn hon yn cynrychioli'r rheini sy'n ei chael yn anodd bod yn rhan o fforymau o'r fath, fel yr un o bob pump o oedolion ifanc sydd ag anhwylder iechyd meddwl y gellir gwneud diagnosis ohono. Mae angen llwyfan ar y bobl ifanc hynny na fyddant, o bosibl, yn gallu cymryd rhan yn y cynlluniau presennol yn sgil eu problemau iechyd meddwl, er mwyn iddynt gael cyfle i leisio barn ar wasanaethau a phrosiectau sy'n effeithio arnynt yn uniongyrchol.

Rydym yn grŵp o bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o'r Prosiect Newid Meddyliau, sy'n cael ei gydlynu gan sefydliad Newport Mind. Disgwylir i'r prosiect hwn golli arian ym mis Tachwedd. Yn sgil y sefyllfa hon, rydym wedi bod yn dysgu am y broses gomisiynu, sydd wedi arwain at greu'r ddeiseb hon ac i'n hymgyrch ehangach, sef #changeit. Bydd cynnwys pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn uniongyrchol y broses gomisiynu yn hwyluso'r broses o deilwra gwasanaethau ac yn gwella hyder y bobl a dargedir gan y gwasanaethau a ddarperir.

"Roedd y cyfle i gyfrannu at y prosiect hwn yn gyfle imi wir ddeall pryderon pobl ifanc a'r problemau y maent yn eu hwynebu. Heb fod y pryderon hyn yn cael eu codi a'u cynnwys wrth lansio unrhyw bolisi sy'n effeithio ar bobl ifanc, bydd unrhyw fenter sy'n effeithio arnynt yn ddiffygiol".

Mae'r ddogfen 'Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru' gan Gomisiynydd Plant Cymru yn fframwaith ar gyfer ymgorffori hawliau plant mewn gwasanaethau sy'n ymwneud â phobl ifanc. Mae'r rhain yn ganllawiau, ac felly nid ydynt yn orfodol. Maent yn seiliedig ar Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC), sy'n amlinellu hawl plant i fod yn rhan o greu a gweithredu polisïau—yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar eu demograffig nhw. Mae Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2016/2017 (yr Adroddiad) yn tynnu sylw penodol at y ffaith bod y Comisiynydd yn dymuno gweld pobl ifanc yn cael eu hintegreiddio yn y broses gomisiynu i raddau mwy helaeth.  Mae'r canllawiau cyfredol ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc yng Nghymru wedi'u cynnwys yn nogfen 'Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru Arfer Da 2016', ymhlith pethau eraill. Mae'r saith 'safon graidd' sydd wedi'u nodi yn y canllaw yn gamau cychwynnol ardderchog. O ran y safonau a'r dulliau hyn, er eu bod yn cael eu bodloni'n rhannol mewn rhai awdurdodau yng Nghymru, mae'r ffaith nad ydynt yn orfodol yn golygu nad ydynt yn ddigonol ar gyfer sicrhau atebolrwydd ynghylch yr holl wasanaethau sy'n ymwneud â phobl ifanc. Rydym yn ceisio sicrhau bod gan bobl ifanc o grwpiau ymylol lais yn y broses o wneud penderfyniadau, yn ogystal â sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru o safon ragorol a chyson. Mae ein deiseb yn cyd-fynd ag Argymhelliad 10 o'r adroddiad 'Cadernid Meddwl', sy'n tynnu sylw at lefelau'r gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu darparu i bobl ifanc ar hyn o bryd, ac yn ategu'r gwaith a wneir gan y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc. Heb newid y canllawiau presennol, bydd pobl ifanc ledled Cymru yn parhau i gael eu gwthio i'r cyrion. Yn benodol, bydd y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl neu anghenion ychwanegol, sef y rhai nad ydynt, o bosibl, yn gallu cymryd rhan yn y mentrau cyfranogiad ieuenctid cyfyngedig sydd ar gael ar hyn o bryd, yn parhau i'w chael yn anodd lleisio barn.

 


 

Cyfranogiad pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt

Hawl gyfreithiol i gael dweud eich dweud mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnoch chi

Mae plant a phobl ifanc hyd at 18 oed yn meddu ar ystod o hawliau fel y'u nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, gan gynnwys hawliau i warchodaeth, iechyd, teulu, addysg, diwylliant a hamdden (gweler crynodeb o'r hawliau).

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol am gyflwyno Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn y gyfraith ddomestig yng Nghymru. Mae'r gyfraith hon yn golygu bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau, roi ystyriaeth briodol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'r term 'ystyriaeth briodol' yn gofyn am ystyriaeth gytbwys o'r materion, sef erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn yr achos hwn. Mae hyn yn golygu bod rhaid i Weinidogion ystyried sut y mae'r hyn a wnânt yn gysylltiedig â hawliau a rhwymedigaethau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Wrth nodi unrhyw effaith negyddol ar blant a phobl ifanc, rhaid i Weinidogion ystyried sut i osgoi'r effaith hon, neu liniaru'r effaith.

I grynhoi, mae Erthygl 12 o'r Confensiwn yn dweud bod gan blant yr hawl i fynegi’r hyn a ddylai ddigwydd yn eu barn hwy, pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, a’r hawl i’w safbwyntiau gael eu hystyried.

Mae Erthygl 24 o'r Confensiwn hefyd yn berthnasol i'r ddeiseb hon gan ei bod yn dweud, â chrynhoi, y dylai gofal iechyd plant a phobl ifanc fod cystal â phosibl.

Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol yng Nghymru

Mae Cymru wedi gweithredu set o safonau cyfranogiad cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc ers dros 10 mlynedd, ac fe'u diweddarwyd yn 2016. Dywedodd Llywodraeth Cymru:

Mae'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol wrth wraidd ein gwaith. Maent yn dweud beth ddylid ei ddisgwyl o'ch gwasanaethau, a sut y dylai ymarferwyr a sefydliadau eich cynnwys chi.

Mae'r safonau'n gwneud yr ymrwymiadau a ganlyn i blant a phobl ifanc:

§    Darparu gwybodaeth sydd o ansawdd dda, sy'n glir ac sy'n hygyrch.

§    Rhoi gwybod ichi pwy sy'n mynd i wrando ac egluro'r gwahaniaeth y gallai eich cyfranogiad ei wneud.

§    Rhoi digon o gymorth ac amser ichi ddewis a ydych am gymryd rhan.

§    Herio gwahaniaethu.

§    Darparu ystod o wahanol gyfleoedd a chymorth i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc.

§    Gwrando ar eich sylwadau, eich profiadau a'ch syniadau a'ch cymryd chi o ddifri.

§    Cydweithio â chi ar bethau sy'n bwysig yn eich tyb chi.

§    Gwerthfawrogi'r hyn yr ydych yn ei gynnig.

§    Cydweithio â chi mewn ffyrdd diogel, hwyliog.

§    Gwneud y mwyaf o'r hyn yr ydych chi'n ei wybod, a gwneud pethau i feithrin eich hyder a'ch sgiliau.

§    Sicrhau bob amser eich bod yn cael adborth o fewn amser y cytunir arno.

§    Dweud wrthym sut a pham y cafodd eich syniadau eu defnyddio.

§    Dweud wrthych beth sy'n digwydd nesaf.

§    Cydweithio â chi a dysgu sut y gallwn weithio'n well.

§    Sicrhau bod eich sylwadau yn gwneud gwahaniaeth i'r ffordd yr ydym yn gwneud cynlluniau a phenderfyniadau.

Mae'r Canllawiau Statudol a wneir o dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn gosod y disgwyliadau o ran sut y dylai cyrff cyhoeddus gymhwyso'r safonau hyn. Mae'n dweud y canlynol:

Er nad yw'n ofyniad o dan y Ddeddf, byddai Gweinidogion Cymru yn annog cyrff cyhoeddus yn gryf i gymhwyso'r […] Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.

Gwasanaethau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i bobl ifanc

Ymchwiliad a gynhaliwyd gan un o bwyllgorau'r Cynulliad yn 2014 yn arwain at adolygiad cynhwysfawr

Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn 2014 i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Mark Drakeford, ei fod wedi sefydlu adolygiad cynhwysfawr i foderneiddio ac ailddylunio'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol. Arweiniodd hyn at greu'r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc yn 2015. Rhaglen aml-asiantaeth ydyw sy'n gwella gwasanaethau gyda'r nod o ailstrwythuro, ailddylunio ac ailffocysu'r gwasanaethau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl a ddarperir i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Adroddiad un o bwyllgorau'r Cynulliad yn 2018 yn galw am 'weithredu brys'

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad 'Cadernid Meddwl' fis Ebrill 2018, gan alw am newid mawr yn y cymorth sydd ei angen i fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl ac i feithrin cadernid emosiynol ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru. Prif argymhelliad yr adroddiad yw bod Llywodraeth Cymru yn gwneud llesiant a chadernid iechyd meddwl ac iechyd emosiynol plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol ddatganedig. Mae'n galw am ymyrraeth llawer cynharach ac yn datgan bod yr 'her frys bellach ym mhen blaen y llwybr gofal - lles emosiynol, gwydnwch ac ymyrraeth gynnar'.

Prosiect Changing Minds

Cyflwynwyd y ddeiseb gan y prosiect Changing Minds, sydd wedi'i gydlynu gan Mind Casnewydd a'i greu ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu sydd wedi cael problemau o'r fath. Mae'r prosiect wedi cynnig y cyfleoedd a ganlyn i bobl ifanc: cymorth gan gyfoedion; cymorth pontio 1:1; gweithdai ar hunan-reoli; a gwirfoddoli. Mae gwefan y prosiect yn nodi bod ei gyllid pum mlynedd a gafwyd gan y Gronfa Loteri Fawr yn dod i ben ac y bydd yn cau ei ddrysau ar 28 Tachwedd 2018 oni bai y gellir dod o hyd i gyllid i barhau â'r prosiect.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.